Caerdydd Dinas Iach
- » Cyflwyniad
- » Beth yw Dinas Iach?
- » Beth yw Rhwydwaith Dinas Iach SIB?
- » Rhaglen Dinas Iach Sefydliad Iechyd y Byd - Cam 5 (2009-2013)
- » Rhaglen Dinas Iach Caerdydd
- » Dinas Iach Caerdydd - blaenoriaeth wirioneddol yng Nghaerdydd
- » Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd SIB
- » Rhwydwaith Dinasoedd Iach y DU
- » Dinasoedd Iach y DU
- » Sefydliad Iechyd y Byd - SIB?
Cyflwyniad
Yn 2009 daeth Caerdydd y ddinas gyntaf yng Nghymru i ennill statws Dinas Iach Sefydliad Iechyd y Byd (SIB), gan ymuno â 13 dinas arall yn y Deyrnas Unedig.
Mae cyflawni'r wobr hon yn cael ei ystyried fel cam pwysig i sicrhau bod Caerdydd yn parhau i ddatblygu fel un o'r llefydd gorau i fyw ynddo yn y wlad ac mae'n darparu gwir gyfle i ystod o asiantaethau sy'n gweithio ar hyd y ddinas i wella iechyd a lles pobl leol a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Beth yw Dinas Iach?
Dinas iach yw un sy'n creu a gwella amgylcheddau corfforol a chymdeithasol yn barhaus ac yn ymestyn adnoddau cymunedol, sy'n galluogi pobl i gefnogi ei gilydd wrth gyflawni pob swyddogaeth bywyd a datblygu i'w llawn botensial.
Nod Dinas Iach yw:
- creu amgylchedd sy'n gefnogol o iechyd,
- cyflawni ansawdd bywyd da,
- darparu mynediad i ofal iechyd.
Nid yw dod yn Ddinas Iach yn golygu bod Caerdydd wedi cyflawni statws iechyd penodol, yn hytrach mae'n ymwybodol o iechyd ac wedi ymrwymo'n gryf i'w wella.
Beth yw Rhwydwaith Dinas Iach SIB?
Mae Rhwydwaith Dinasoedd Iach SIB yn fudiad byd-eang. Mae'n ymgysylltu â llywodraethau lleol i ddatblygu iechyd trwy broses o ymrwymiad gwleidyddol, newid sefydliadol, adeiladu cymhwysedd, cynllunio yn seiliedig ar bartneriaeth a phrojectau arloesol. Mae iechyd yn fusnes i bob sector, ac mae llywodraethau lleol mewn safle arweinyddiaeth unigryw, gyda'r pŵer i amddiffyn a hyrwyddo iechyd a lles eu dinasyddion.
Mae'r mudiad Dinasoedd Iach yn hyrwyddo polisi a chynllunio cynhwysfawr a systematig ar gyfer iechyd ac yn pwysleisio:
- yr angen i ymdrin ag anghydraddoldeb mewn iechyd a thlodi dinesig
- anghenion grwpiau sy'n agored i niwed
- llywodraethu cyfranogol, a
- phenderfynyddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol iechyd.
Nid yw hyn yn ymwneud â'r sector iechyd yn unig. Mae'r dull Dinas Iach yn cydnabod effaith meysydd megis datblygiad cymdeithasol, economaidd, adfywio a dinesig ar iechyd a lles.
Rhaglen Dinas Iach Sefydliad Iechyd y Byd - Cam 5 (2009-2013)
Mae rhaglen Dinas Iach Sefydliad Iechyd y Byd wedi'i datblygu yn gamau pum mlynedd. Ymunodd Caerdydd â'r rhaglen yng Ngham 5 a'r thema gyffredinol yw "iechyd a chyfiawnder iechyd ym mhob polisi lleol," a fydd yn cael ei gyflawni drwy weithio i'r themâu craidd canlynol:
- Byw'n Iach
- Amgylcheddau Gofalgar a Chefnogol
- Dylunio Dinesig Iach
Rhaglen Dinas Iach Caerdydd
Mae model ar gyfer Dinas Iach Caerdydd wedi'i ddatblygu. Mae'r model hwn yn cydnabod y materion cymhleth a chysylltiedig sy'n effeithio ar iechyd a lles pobl. Mae rhaglen gychwynnol wedi'i datblygu a bydd hyn yn esblygu dros y cyfnod pum mlynedd.
Rhagor o wybodaeth ar Raglen Dinas Iach Caerdydd.
Dinas Iach Caerdydd - blaenoriaeth wirioneddol yng Nghaerdydd
Mae Caerdydd wedi nodi'r blaenoriaethau iechyd a thegwch iechyd gyda chynllunio strategol trwy Brifddinas Falch: Strategaeth Gymunedol Caerdydd (2007-17), a'r strategaethau cefnogol, Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (2008-11), Cynllun Plant a Phobl Ifanc (2008-11) a Chynllun Gweithredu Prifddinas Ddiogelach. Mae datblygu'r Strategaeth Partneriaeth Integredig a chefnogi'r strategaethau yn darparu dull cynllunio cyffredin ar gyfer 2011 ac mae'r partneriaethau wedi datblygu saith canlyniad cytunedig ar gyfer y ddinas sy'n cynnwys: Mae pobl yng Nghaerdydd yn iach. Mae Rhaglen Dinas Iach Sefydliad Iechyd y Byd Caerdydd yn allweddol i ddarparu'r canlyniad hwn ar gyfer Caerdydd.
Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd SIB
Mae 66 dinas yn aelodau o'r Rhwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd SIB, (Awst 2010) a 30 Rhwydwaith Dinasoedd Iach Cenedlaethol o Ranbarth Ewropeaidd SIB yn perthyn a thrwy'r rhwydweithiau yn cynnwys mwy na 1400 o ddinasoedd a threfi.
Ystyrir y Rhwydweithiau cenedlaethol hyn fel asgwrn cefn y mudiad Dinasoedd Iach yn Ewrop. Maent yn darparu cefnogaeth wleidyddol, strategol a thechnegol i'w haelodau, yn cynrychioli adnodd cenedlaethol o brofiad ac arbenigaeth mewn datblygu iechyd ac yn cynnig llwyfan dynamig ar gyfer eiriolaeth iechyd ar y lefelau cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae pob rhwydwaith cenedlaethol yn unigryw. Mae pob un yn datblygu mewn ymateb i anghenion ei aelod-ddinasoedd, yn unol â'r adnoddau sydd ar gael ac o fewn ei fframwaith diwylliannol a chyfreithiol.
Gall rhwydweithiau cenedlaethol gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaethau'r wlad ar gyfer hyrwyddo iechyd, atal clefydau anhrosglwyddadwy, a'r amgylchedd a iechyd.
Mwy o wybodaeth ar Rwydwaith Dinasoedd Iach Ewropeaidd SIB.
Rhwydwaith Dinasoedd Iach y DU
Wedi’i sefydlu gydag arian gan Adran Iechyd Lloegr, mae Rhwydwaith Dinasoedd Iach y DU yn un o 30 o Rwydweithiau Dinasoedd Iach ledled Ewrop, ac sydd yn ddiweddar wedi dod yn un o’r 20 o sefydliadau a achredwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd fel aelod o Rwydwaith Rhwydweithiau Dinasoedd Iach Ewrop.
Dilynwch y ddolen i Rwydwaith Dinasoedd Iach y DU www.healthycities.org.uk
Dinasoedd Iach y DU
Yn 2009 daeth Caerdydd y ddinas gyntaf yng Nghymru i ennill statws Dinas Iach Sefydliad Iechyd y Byd, gan ymuno â 13 dinas arall yn y Deyrnas Unedig. Dinasoedd Iach Sefydliad Iechyd y Byd yn y DU yw:
- Caerdydd
- Newcastle
- Sunderland
- Stoke-on-Trent
- Belfast
- Brighton
- Lerpwl
- Manceinion
- Glasgow
- Sheffield
- Carlisle
- Preston
- Derry
- Abertawe
Sefydliad Iechyd y Byd - SIB?
SIB yw'r awdurdod cyfarwyddol a chydlynol ar gyfer iechyd o fewn system y Cenhedloedd Unedig. Mae'n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth ar faterion iechyd byd-eang, siapio agenda ymchwil iechyd, gosod norm a safon, nodi opsiynau polisi yn seiliedig ar dystiolaeth, darparu cymorth technegol i wledydd a monitro ac asesu tueddiadau iechyd.
Yn yr 21ain ganrif, mae iechyd yn gyfrifoldeb a rennir, yn cynnwys mynediad teg i ofal hanfodol ac chyd-amddiffyniad yn erbyn bygythiadau trosiannol. Rhagor o wybodaeth ar http://www.who.int/about/en/



